SL(6)386 - Gorchymyn y Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) (Rhif 2) 2023

Cefndir a diben

Sefydlwyd Cynllun Masnachu Allyriadau ("ETS") y DU gan Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ("y prif Orchymyn") fel cynllun masnachu allyriadau nwyon tŷ gwydr ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn ffordd gost-effeithiol o annog y sectorau pŵer, diwydiant ac awyrennau i leihau eu hallyriadau. Cafodd ei ddylunio ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Mae'n cyfrannu at dargedau lleihau allyriadau a nod sero net y DU, yn ogystal â'r llwybr lleihau allyriadau yng Nghymru.

Cafodd ETS y DU ei sefydlu gan y prif Orchymyn i fod yn weithredol o 1 Ionawr 2021 ac i bara am ddeng mlynedd. Mae'r cynllun yn gweithio drwy ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gweithfeydd diwydiannol ynni-ddwys, cynhyrchwyr pŵer a gweithredwyr awyrennau fonitro, adrodd ar ac ildio "lwfansau" sy'n cyfateb i'w hallyriadau nwyon tŷ gwydr ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Mae rhai cyfranogwyr yn cael dyraniad o lwfansau yn ddi-dâl. Cyhoeddir eu manylion mewn tablau dyrannu.

Mae’r Gorchymyn hwn yn cynnwys nifer o welliannau sy’n ymdrin â newidiadau technegol mewn ymateb i anghenion newidiol cyfranogwyr y cynllun a nodwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Yn benodol, mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud yr hyn a ganlyn:

·         symleiddio'r drefn ar gyfer dosbarthu cynhyrchwyr trydan i ganiatáu mynediad tecach at ddyraniadau am ddim;

·         yn rhoi terfyn ar ddyraniadau am ddim gweithredwyr awyrennau ar 100 y cant o'u hallyriadau wedi'u dilysu; 

·         caniatáu i weithredwyr gweithfeydd dal carbon dderbyn dyraniadau am ddim.

Nodir nad oes unrhyw weithredwyr hedfanaeth yng Nghymru o dan ddiffiniadau ETS y DU.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft

Gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Rhaid i'r drafft gael ei gymeradwyo gan bob un o'r deddfwrfeydd hynny cyn y gellir ei wneud gan Ei Fawrhydi.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn:

1.    Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Nodwn y gosodwyd drafft o'r Gorchymyn gerbron Senedd Cymru, Senedd y Deyrnas Unedig, a Senedd yr Alban. Felly, mae'r Gorchymyn drafft yn Saesneg yn unig a chaiff ei wneud yn Saesneg yn unig.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn cysylltiad â’r offeryn hwn.


Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

27 Medi 2023